Telerau ac Amodau
Mae hwn yn gytundeb rhwng Cyfranogwr y Prosiect a Cyswllt Celf. Trwy hyn, mae Cyfranogwr y Prosiect yn cytuno ar ei r(h)an ef/hi a’r
Tîm i gymryd rhan yn Her Ffilm Deg Diwrnod Cynnig 5 Ffilmic (a elwir o hyn allan yn FT5)
Mae hwn yn gytundeb rhwng Cyfranogwr y Prosiect a Cyswllt Celf. Trwy hyn, mae Cyfranogwr y Prosiect yn cytuno ar ei r(h)an ef/hi a’r
Tîm i gymryd rhan yn Her Ffilm Deg Diwrnod Cynnig 5 Ffilmic (a elwir o hyn allan yn FT5)
Mae Cyfranogwr y Prosiect wedi darllen ac yn cytuno ar ran y tîm i lynu at reolau’r prosiect. Deellir fod Cyswllt Celf yn cadw’r hawl i ddiarddel rhag eu sgrinio a diystyru unrhyw ffilmiau nad ydynt yn glynu at y rheolau hyn.
Mae Cyfranogwr y Prosiect yn deall trwy hyn mai ef/hi sy’n gyfrifol am y criw, cast, offer, setiau, lleoliadau a’r eitemau eraill sy’n angenrheidiol i gymryd rhan yn FT5 a holl gostau, treuliau, iawndal a hawliau’n ymwneud â FT5.
Mae Cyfranogwr y Prosiect trwy hyn yn cadarnhau y bydd ef/hi yn sicrhau pob hawl (gan gynnwys hawlfraint heb gyfyngiadau) mewn perthynas â phob deunydd sy’n rhan o’r Ffilm, gan gynnwys heb gyfyngiadau unrhyw un a phob delwedd, ffotograff, perfformiad, ymddangosiad(au) gan unrhyw berson(au) a sain, gan gynnwys y gerddoriaeth. Bydd Cyfranogwr y Prosiect yn cael ffurflen Rhyddhau wedi’i llofnodi gan bawb sy’n ymddangos yn y Ffilm, ac i bawb sy’n rhan o’r Tîm. Mae Cyfranogwr y Prosiect yn cynrychioli ac yn gwarantu ei fod ef/hi
(a) yn rhydd i wneud y cytundeb hwn, (b) mai Cyfranogwr y Prosiect yw unig ddeiliad hawlfraint mewn perthynas â’r Ffilm, ar wahân i hawliau Cyswllt Celf a nodwyd eisoes, a (c) nad yw’r Ffilm, hyd y mae Cyfranogwr y Prosiect yn ymwybodol, yn torri hawlfraint unrhyw berson neu endid, nac yn difenwi nac yn torri unrhyw hawliau o unrhyw fath, ac yn cynnwys hawl i breifatrwydd unrhyw berson neu endid.
Mae Cyfranogwr y Prosiect trwy hyn yn cytuno i ddigolledu, amddiffyn a pheidio dal Cyswllt Celf, ei berchnogion, cyfarwyddwyr, gweithwyr yn gyfrifol mewn perthynas ag unrhyw a phob hawl, cost, iawndal, treuliau, ac atebolrwydd gan gynnwys heb gyfyngiadau, ffioedd twrnai sy’n codi o greu, cynhyrchu, defnyddio, arddangos, hyrwyddo, marchnata, gwerthu neu unrhyw ymelwa o’r Ffilm gan Gyfranogwr y Prosiect, y Tîm a/neu unrhyw aelod o’r Tîm, y Partïon a Ddigolledwyd a/neu unrhyw un ohonynt (gan gynnwys heb gyfyngiadau, hawliau mewn perthynas ag esgeulustra a chamweddau eraill, defnydd o debygrwydd heb awdurdod, trais ar hawl preifatrwydd, cyhoeddusrwydd neu bersonoliaeth, neu ddifenwad, twyll, torri ar hawlfraint a nod masnach, a thorri contract) a thorri unrhyw gynrychiolaeth, gwarant neu rwymedigaeth gan Gyfranogwr y Prosiect trwy hyn.
Bydd Cyfranogwr y Prosiect/y Tîm a Chyswllt Celf yn berchen ar y cyd, fel cyd-awduron, hawlfraint mewn perthynas â’r Ffilm, ac maent yn cytuno trwy hyn ar rannu’r hawliau fel a ganlyn: o ddiwrnod olaf y Prosiect. a. Cyfranogwr y Prosiect / Y Tîm fydd â’r hawliau agored i gystadlu gyda’r Ffilm mewn gwyliau ffilm, i sgrinio’r Ffilm mewn digwyddiadau ffilm lleol, i ffrydio’r Ffilm neu ran ohoni ar wefan personol Cyfranogwyr y Prosiect i’w gwylio ar y rhyngrwyd; i ddosbarthu’r ffilm trwy DVD. b. Bydd gan Gyswllt Celf yr hawliau agored i: sgrinio, dangos, arddangos, teleddarlledu, darlledu, hysbysebu, marchnata, ymwela a lledaenu’r Ffilm a / neu unrhyw ran ohoni trwy’r byd dros byth, mewn unrhyw gyfrwng, ac mewn unrhyw fodd boed yn hysbys yn awr neu yn cael ei ddyfeisio yn y dyfodol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r theatr, teledu (gan gynnwys heb gyfyngiadau pob math o deledu cabl a digidol), DVD, trwy’r Rhyngrwyd ac unrhyw ddull digidol o lawrlwytho. Bydd gan Gyswllt Celf, heb gyfyngu ar yr isod, yr hawl i ddefnyddio’r Ffilm neu unrhyw ran ohoni i hysbysebu, hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i Gyswllt Celf mewn unrhyw ddull a thrwy unrhyw gyfrwng fel y gwêl Cyswllt Celf yn ddoeth.
Mae Cyfranogwr y Prosiect trwy hyn yn cydnabod nad oes unrhyw dâl nag iawndal ariannol yn gysylltiedig â chymryd rhan yn FT5 Cyswllt Celf. Y budd o gymryd rhan yw cael sgrinio Ffilmiau gorffenedig cyfranogwyr y Prosiect ar ddiwedd y prosiect; a’r posibilrwydd, er nad yw’n rhwymedigaeth ar ran FT5, i ddangos a dosbarthu’r ffilm yn y dyfodol; a chyfle ar gyfer cyhoeddusrwydd neu ymddangosiadau o ganlyniad i gymryd rhan.
Mae Cyfranogwr y Prosiect yn cydnabod ac yn cytuno nad yw’n weithiwr i nag yn asiant i Gyswllt Celf ar gyfer unrhyw bwrpas, gan gynnwys goblygiadau treth, ond yn hytrach fod y partïon yn gontractwyr yn annibynnol o’i gilydd.
Er y bydd Cyswllt Celf yn cymryd pob gofal posibl gyda phob ffilm sy’n cael ei hanfon atynt, nid yw’n gallu cymryd cyfrifoldeb am golled neu ddifrod. Mae Cyfranogwr y Prosiect yn deall y dylai’r Tîm gadw’r copi meistr, a chystadlu gyda chopi nad yw’n bosibl ei ddychwelyd.
Mae FT2 yn derbyn ffilmiau mewn unrhyw iaith, er dylai ffilmiau mewn iaith ar wahân i Saesneg fod ag isdeitlau yn Saesneg, er mwyn i feirniaid gallu gwneud eu gwaith yn deg a hefyd i ganiatáu i’r ffilm gael ei hanfon, naill ai gan Gyswllt Celf neu gan Gyfranogwr y Prosiect, i wyliau ffilm eraill neu i’w dosbarthu.
Cyswllt Celf yn unig sy’n gyfrifol am ddewis aelodau’r panel beirniadu. Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol fel y gwelant yn ddoeth, a ni fydd yn bosibl gohebu mewn perthynas â’r penderfyniad.