1
Cael criw ffilm at ei gilydd. Gall hyn gynnwys sgriptiwr, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, golygydd, colurwr, animeiddiwr neu lai neu fwy o bobl
2
Dewis ENW’R TÎM
3
Cofrestru’r tîm trwy lawrlwytho ffurflen gystadlu ar: www.ffilmic.co.uk/hercofrestru.htm a’i dychwelyd i Gyswllt Celf erbyn 21 Hydref 2011
4
Cyrraedd y lleoliad, Canolfan Ieuenctid a Chymunedol, Llanfyllin, gydag o leiaf un aelod o’ch tîm dydd Gwener 21 Hydref erbyn 6.30
5
Os na fyddwch yn gallu dod i'r lansiad, bydd eich grwp yn derbyn yr wybodaeth berthnasol trwy e-bost ddydd Gwener @ 7.30yh
6
Cyhoeddir enw’ch tîm a bydd gofyn i gynrychiolydd eich tîm gasglu’r genre, celficyn a llinell ddeialog eich tîm Gall y genres gynnwys:
- Comedi
- Drama
- Arswyd
- Ffilm yn seiliedig ar daith/teithio
- Road Movie
- Fideo Cerddo
- Mocumentary
- Dogfen
- Trosedd
- Llofruddiaeth
- Rhamant
- Ffilm Noir
- Ffilm Gerdd
- Ffilm Gowbois
- Ffilm Fud
- Ffuglen wyddonol
Rydym yn ymwybodol fod llawer o ffilmiau’n groes-genre e.e. comedi/rhamant neu arswyd/teithio. Ni wahaniaethir yn erbyn timau am gyfuno genres, mor bell â bod eu ffilm yn amlwg yn ffitio i’r prif genre a roddir iddynt
7
Mae gan dimau hyd at 5yp ar ddydd Llun 31 Hydref i sgriptio, recordio, golygu a chyflwyno’r ffilm orffenedig i Swyddfa Cyswllt Celf yng Nghanolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanfylllin, ynghyd â’r ffurflenni rhyddhau wedi’u cwblhau ar gyfer eich actorion, lleoliad a cherddoriaeth
8
Dewch i ymuno â ni ar ddydd Sadwrn 19 Tachwedd yn Theatr Llwyn, Ysgol Uwchradd Llanfyllin, pan gyhoeddir a dangosir y ffilmiau buddugol ym mhob categori. Bydd y gwobrwyon hefyd yn cael eu cyflwyno


