Rheolau
Gellir diwygio’r rheolau hyn ar unrhyw adeg
Gellir diwygio’r rheolau hyn ar unrhyw adeg
Mae’n rhaid cwblhau a dychwelyd y ffurflen gais erbyn dydd Llun 9 Awst 2010.
Cynhelir Her Ffilmic rhwng 6.30yh, dydd Llun 9 Awst 2010 a 5.00 yp, dydd Mercher 18 Awst 2010.
Mae’n rhaid rhoi manylion cyswllt o leiaf un aelod o’r tîm.
Mae’n rhaid i holl aelodau’r cast a’r criw fod yn wirfoddolwyr.
Mae’n rhaid recordio’r holl ffilm o fewn cyfnod deg diwrnod y prosiect. Ni chaniateir defnyddio unrhyw recordiad a wnaethpwyd ar unrhyw adeg arall. Caniateir animeiddio ac effeithiau arbennig, ond mae’n rhaid iddynt gael eu creu o fewn y deg diwrnod.
Dylai ffilmiau barhau am rwng 1 a 5 munud.
Dylai’r ffilm orffenedig gael 5 eiliad o sgrîn ddu, ac yna’r wybodaeth ganlynol: Enw’r Tîm, Categori Oedran, Genre, Teitl y Ffilm, cyn cychwyn y Ffilm ei hun.
Ni ddylai’r glodrestr barhau am fwy na 1 munud ar ben y 5 munud a ganiateir i’r ffilm (e.e. 5 munud o amser rhedeg, a 1 munud ar gyfer clodrestr = cyfanswm amser rhedeg o 6 munud). Ni fydd unrhyw ffilm dros 6 munud o hyd yn gymwys.
Ar ddiwedd y ffilm, mae'n rhaid cynnwys Cerdyn 'Diwedd'; gellir ei lawrlwytho o @ http://www.ffilmic.co.uk/cymraeg/hercofrestru.htm
Os bydd y ffilm yn cael ei saethu mewn cymhareb 16:9 a/neu’n anamorffig, mae’n rhaid cyflwyno’r ffilm yn null ‘blwch-llythyrau’.
Mae’n rhaid cyflwyno eich ffilm heb fod yn hwyrach na 5yp ar dydd Mercher 18 Awst 2010 mewn un o’r fformatau canlynol: ‘mini dv’ neu ‘QuickTime’, 'avi'.
Os ydych yn postio ffilm atom, yna mae’n rhaid i’r dyddiad ar yr amlen fod dim hwyrach na 30 Medi 2008.
Mae’n rhaid i gynnwys y ffilm fod yn addas i’w wylio gan bobl ifanc dan 18 oed. Bydd ffilmiau’n cael eu diarddel os maent yn cynnwys rhyw raffig, noethni, trais direswm, neu iaith anweddus.
Mae’n rhaid i bob aelod o’r tîm lofnodi ffurflen rhyddhau ar ôl dychwelyd y ffilm yn cydnabod mai chi sydd biau pob caniatâd trwyddedu a hawlfraint ar y deunydd yn eich ffilm. Bydd methu â llofnodi’r ffurflen hon yn golygu na fydd yn bosibl sgrinio’ch ffilm. Mae’n rhaid i actorion yn y ffilm lofnodi ffurflen rhyddhau. Anogir timau i weithio gyda chyfansoddwr neu gerddorion lleol i ysgrifennu a recordio ar gyfer y ffilm. Caniateir i grwp sy’n cymryd rhan ddefnyddio cerddoriaeth a recordiwyd ymlaen llaw (e.e. yn rhydd rhag breindal, cerddoriaeth band ffrind) ond mae’n rhaid iddynt lofnodi ffurflen rhyddhad. Mae’n rhaid i dimau anfon y dogfennau canlynol gyda’r ffilm orffenedig: Copi o’r ffilm orffenedig Ffurflen Gais i’r Ffilm Ffurflenni rhyddhau (i’r Tîm, y Cast, Cerddoriaeth, Lleoliad)
Trwy gystadlu gyda ffilm, rydych yn rhoi pob hawl i Gynnig 2 Ffilmic i’r ffilm orffenedig i’w dangos mewn gwyliau ffilm, ar gyfer pwrpasau hyrwyddo, ac i’w harddangos ar y we. Nid yw hyn yn amharu mewn unrhyw ffordd ar eich hawl i sgrinio neu ddosbarthu’r ffilm mewn unrhyw ffordd rydych yn meddwl sy’n addas.