Cynnig 4 Her Ffilm
Gallwch chwilio Archifau'r Her i weld ffilmiau a gynhrychwyd yn y blynyddoedd a fu.
Dyddiadau'r 4ydd Her Ffilm: Dydd Llun 9 Awst - Dydd Mercher 18 Awst
Os am ddweud wrth rywun neu hysbysebu poster - gellir lawrlwytho poster ein her ffilm drwy glicio yma.
Ein her i chi yw creu ffilm 5 munud o sgript i'r sgrīn mewn deg diwrnod.
Mae Her Ffilm Cynnig 4 Ffilmic, yn cynnig cyfle i holl gynhyrchwyr ffilm yn y DU i gymryd rhan.
Bydd yr her yn cychwyn am
6.30yh, Dydd Llun 9 Awst
Canolfan Ieuenctid a Chymunedol, Llanfyllin
Bydd bob tīm yn derbyn genre ffilm, celficyn a llinell ddeialog fydd yn gorfod ymddangos yn y ffilm.
Wedyn bydd gennych hyd at 5 yp dydd Mercher 18 Awst i ysgrifennu, castio, saethu, golygu a chyflwyno'r ffilm yn ōl inni.
Does dim tāl i gystadlu yn Cynnig 4 Ffilmic, ac mae'n agored i unigolion a grwpiau. Bydd pob tīm sy'n cystadlu yn derbyn 2 docyn am ddim i Wyl Ffilm Ffilmic yn Llanfyllin rhwng 4 Medi.
Categorļau Oedran:
Hyd at 12 oed, 12 17, 18 a throsodd
D.S. - dim ond actorion sy'n gallu bod tu allan i'r cyfyngiadau oedran hyn - os oes gennych griw o oedran cymysg, dylech ddewis eich categori trwy oedran cyfartaledd eich criw allweddol - cyfarwyddwr, person camera a golygydd.
Bydd pob ffilm sy'n cael ei chwblhau o fewn rheolau Cynnig 4 Ffilmic yn gymwys i'w beirniadu. Seilir y beirniadu ar y stori, gwerthoedd cynhyrchu a glynu at y genre.
Bydd ffilmiau buddugol pob categori yn cael eu sgrinio mewn theatr yng ng?yl ffilm Ffilmic, a bydd casgliad o oreuon y gweddill ar gael ar DVD i'w brynu (bydd y timau buddugol yn derbyn copi am ddim).
Hefyd, rhoddir gwobrwyon am y canlynol:
- Y Sinematograffeg gorau
- Y Cyfarwyddo gorau
- Yr Actor gorau
- Y Golygu gorau
- Y Sgriptio gorau
BYDD PENDERFYNIAD Y BEIRNIAID YN DERFYNOL
For an application form please visit:
http://www.ffilmic.co.uk/cymraeg/hercofrestru.htm or email:
ffilmic@artsconnection.org.uk


