Films 2011

Gwyl Ffilm Ffilmic 2011 - 19 Tachwedd @ Theatr Llwyn

Croeso i 5ed Gwyl Ffilm Ffilmic!

Y Rhaglen

Sgrinio’r Her Ffilm, 6.00 - 8pm yn Theatr Llwyn

(oedolion - £3, plant - £1) neu os mae rhywun yn bwriadu dod i’r ‘dots. film band’ a’r sgrinio (oedolion -£5 am y ddau, a £1.50 y plentyn)

Dewch i weld yr holl ffilmiau anhygoel a wnaethpwyd fel rhan o Her Ffilm Rhifyn 5, pan gafodd cyfranogwyr dim ond 10 diwrnod i wneud eu ffilm 5 munud!

‘Dots. Film Band’, 8.30 - 9.30pm yn Theatr Llwyn

(oedolion - £3, plant - £1) neu os mae rhywun yn dod i’r her ffilm hefyd (oedolion - £5 am y ddau, a £1.50 y plentyn)

Grwp o dri cherddor sy’n cyfansoddi cerddoriaeth yn fyw ar gyfer traciau sain ffilmiau byrion cyfoes yw dots. film band.

Yn unigryw drwy Brydain, mae dots. yn cydweithio gyda gwneuthurwyr ffilm sydd eisoes wedi’u sefydlu a rhai newydd sy’n datblygu, sy’n gweithio ym meysydd gwneud ffilmiau gweithgar byw, animeiddio, ffilmiau mud a ffilmiau cyfryngau newydd.

Trwy gyfuno’r traddodiad o draciau sain byw a sefydlwyd yn nyddiau cynnar y sinema, ond gydag agweddau gorau ar destunau, mathau, a thechnegau ffilmiau cyfoes, a chanrif o ddylanwadau a datblygiadau sinematig, mae dots. film band yn ychwanegu dimensiwn arall i brofiad ffilm gan ddefnyddio cerddoriaeth fyw i greu digwyddiadau aml-synhwyrol eithriadol, trwy gynnwys y diddordeb cynyddol mewn ffilmiau byrion a chreu “gwaith celf cyfannol” lled-Wagnerian ar gyfer yr 21ain ganrif.

Mae dots. wedi cydweithio gydag amrywiaeth helaeth o wneuthurwyr ffilm sy’n gweithio mewn cyfryngau amrywiol megis animeiddio ‘ffrâm-stop’, i weithred fyw a ‘CGI’. Ymysg yr artistiaid sydd wedi gweithio gyda ni mae Virginia Head (Enillydd Gwobr am yr Artist Gorau Cymreig yn 2007) sydd wedi gweithio i nifer o gwmnïau animeiddio arobryn ar draws Ewrop ac yn yr UDA, a Rhiannon Evans, gwneuthurwr ffilm ifanc addawol sydd eisoes wedi dangos ei gwaith yng ngwyl ffilmiau byrion pwysig Clermont-Ferrand yn Ffrainc.

Mae dots. film band wedi perfformio ac wedi datblygu eu celfyddyd trwy arddangos yng Ngwyl SWN, Gwyl Ffilm Trailerpark a’r Wyl Experimentica Cenedlaethol; maent wedi cael ymateb hynod o bositif gan raglenwyr a’r cyhoedd fel ei gilydd, ac edrychwn ymlaen at fynd â’r prosiect cyffrous a gwreiddiol hwn allan i gynulleidfa ehangach.

Ar gyfer eu prosiect cyfredol, sydd i fod i fynd ar daith o gwmpas Prydain ym mis Tachwedd 2011, mae dots. film band wedi cymryd chwe ffilm fer hollol wahanol i’w gilydd, sy’n cynnwys rhai mud, animeiddio a gweithred fyw gan chwech o wneuthurwyr ffilm Prydeinig addawol, ac wedi creu traciau sain i’w perfformio ar amrywiaeth eang o offerynnau, ac wedi cael hyd i eitemau oedd eu hangen ar bob ffilm unigol.

Roedd y ffilmiau hyn yn cynnwys gwydr wedi’i baentio animeiddiedig gyda stori am bellter, heneiddio, hiraeth a gwylan; ffrâm-stop bwystfil Frankenstein ôl-apocalyptaidd, ystyried goblygiadau anfarwoldeb, a rhamant sy’n delio gyda buddugoliaethau a pheryglon cariad lle mae’r bobl wedi cael eu gwneud o gortyn.

Yn 2009 y sefydlwyd dots. film band, yn brosiect a ddeilliodd o rywbeth a gychwynnwyd gan aelodau Cardiff New Music Collective (www.cnmc.co.uk). Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n cefnogi’r daith hon.

YMATEBION I DDIGWYDDIADAU DOTS. :

"Hyd y gwn i does ’na’r un grwp arall yn gweithio ym Mhrydain yn yr un ffordd â dots. gyda ffilm a cherddoriaeth gyfoes... Maen nhw’n gwneud yr hyn sydd ei angen i gael yr agwedd gywir ar gyfer bob ffilm, drwy amrywiaeth a chwmpas eu cerddoriaeth; gitâr, syntheseiddwr, ffliwt, effeithiau...beic hyd yn oed! Mae ’na ryw deimlad o achlysur gyda dots; maen nhw wedi chwalu’r llyfr sy’n nodi’r hyn y gellid ei wneud gyda ffilm fyw a thrac sain!" John Rostron, Cyfarwyddwr Gwyl SWN

“gwefreiddiol a galluog

dros ben” Gwyl Ffilm Trailerpark

“Mae’r cerddorion hyn yn meddu ar ddychymyg anghyffredin i chwarae dim byd mwy na’r nodau hanfodol sydd eu hangen i drosglwyddo’r sain gywir i’r lluniau” Gwyl Genedlaethol Experimentica

"Digwyddiad gwych. Y perfformiad gwreiddiol a’r rhyngweithio oedd wedi plesio’r gynulleidfa newydd orau. Mae Canolfan Celfyddydau Chapter yn falch dros ben iddo allu cefnogi eu perfformiad.” Sally Griffiths, Canolfan Celfyddydau Chapter