Photos 2009
Ffilmiau 09
Mae'r ffilmiau'n cael eu sgrinio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Ffilm y Dyffrynnoedd, sy'n rhedeg rhaglen o ffilmiau o fis Medi hyd fis Mawrth. For their full programme visit: http://www.valleysfilm.org.uk
NOS WENER 23AIN HYDREF - NOSON LANSIO'R WYL
Nosferatu: Symffoni Arswyd, gyda pherfformiad o drac sain byw gan Minima

7.30yh
Cyf: F.W. Murnau - 1922 - Tyst. PG - 92 mun
Nosferatu yw ffilm wreiddiol Dracula - a hyd yn oed r?an, wyth deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, y fwyaf arswydus. Mae cyfarwyddyd gweledigaethol F.W. Murnau a pherfformiad iasol Max Schreck yn y brif rôl yn golygu fod hon yn gampwaith heb ei ail.
Mae'n rhaid i chi weld Minima - maent wedi perfformio yng ngwyliau'r Big Chill a Latitude, yn y Barbican yn Llundain ac oriel Arnolfini ym Mryste, ac wedi ymddangos yn rheolaidd yn y Shunt Vaults yn Llundain. Maent yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ym myd cerddoriaeth fyw a'r sîn ffilm. Gwelir tystiolaeth o apêl gynyddol Minima mewn lleoliadau amrywiol: nid yn unig mewn sinemâu, ond mewn clybiau, theatrau, eglwysi a lleoliadau cyhoeddus. "Roedd yr awyrgylch yn hudol - gyda channoedd o bobl wedi'u hudo'n llwyr." (Gwyl Ffilm yr East End ar Nosferatu, 2009)
DYDD SADWRN 24AIN HYDREF
Knowledge Is The Beginning - (Daniel Barenboim a'r West Eastern Divan Orchestra)

12.00pm
Cyf: Paul Smaczny - 2005 - Tyst. PG - 90 mun
Hanes Cerddorfa West-Eastern Divan, lle bydd Arabiaid ac Iddewon ifanc yn perfformio ac yn byw ochr yn ochr â'i gilydd. Ffilm yw hon sy'n trin effaith gerddoriaeth; y ffordd mae'n gallu codi uwchlaw rhwystrau diwylliannol, dod â phobl at ei gilydd, trechu rhagfarn a goresgyn gwahaniaethau crefyddol a gwleidyddol. O safbwynt Daniel Barenboim, sylfaenydd yr ensemble, mae'r gerddorfa'n cynrychioli'r hyn y gellir ei gyflawni yn y Dwyrain Canol.
"Mae Paul Smaczny wedi cyfeilio i Gerddorfa West-Eastern Divan ers pum mlynedd. Mae'n rhaid i chi weld y canlyniad - gwaith celfyddydol sinematig." (Frankfurter Allgemeine Zeitung, 20/08/2005)
HomeGrown HipLife in Ghana

TBC
Cyf. Eli Jacobs-Fantauzzi - 2008 - 50 mun
Ffilm ddogfen, hyd raglen nodwedd yw "HomeGrown: HipLife in Ghana", ar destun V.I.P. (Vision In Progress). Mae'r ffilm yn adrodd hanes deng mlynedd o'u taith o'r geto yn Accra hyd at eu taith ryngwladol gyntaf. Maent yn datblygu o fod yn blant yn eu harddegau gyda breuddwyd cyffredin yn gerddorion sydd â dilynwyr ledled y byd. Ers gorffen y ffilm yn 2008, mae'r cyfarwyddwr, Eli Jacobs-Fantauzzi, wedi bod mewn digwyddiadau sgrinio mewn gwyliau yn Affrica, Hawaii, Amsterdam, Efrog Newydd a r?an Ffilmic yn Llanfyllin. Fel un o'n cyfarwyddwyr preswyl, bydd Eli yn y digwyddiad sgrinio i drafod cynhyrchu'r ffilm.
Take 3 Film Challenge Screenings & Awards
TBC
Cofiwch wisgo fyny ar gyfer un o uchafbwyntiau G?yl Ffilm Ffilmic - sef datgelu enillwyr teitl cynhyrchwyr ffilm Her Ffilm Rhif Tri am eleni, sy'n cael ei noddi'n garedig iawn eto gan Westy Llyn Efyrnwy.
Kapital

TBC
Cyf. Greg Hall/Steve Martland - 2007 - Tyst.15 - 75 mun
Comisiynwyd yn arbennig ar gyfer Gwyl Ryngwladol Manceinion yn 2007, mae Kapital yn enghraifft o gydweithio unigryw rhwng yr awdur a chyfarwyddwr ifanc enwog o Brydain, Greg Hall a'r cyfansoddwr a'r cerddor enwog, Steve Martland. Mae Kapital yn cymryd golwg gothig a digyfaddawd ar ddirgelion tywyllach natur a chymdeithas ddynol. Gan ddilyn croestoriad o fywydau cymeriadau, wedi'u plethu fel mosaig yn ystod diwrnod cythryblus, wrth iddynt ddelio gyda'r cythreuliaid a'r angylion sy'n aflonyddu ar eu realiti llym. Portread apocalyptaidd o fywyd cyfoes.
Mae'n bleser gan Ffilmic estyn croeso unwaith eto i Greg Hall fel un o'n cyfarwyddwyr preswyl er mwyn cyflwyno'r ffilm a thrafod y dull o gydweithio gyda'r cyfansoddwr Steve Martland.
Digwyddiad 09
All events are on DYDD SADWRN 24AIN HYDREF
Gweithdai @ Canolfan Ieuenctid a Chymunedol, Llanfyllin
12 - 4pm
Gweithdai ffilm i bob oed rhwng canol dydd a 4 o'r gloch yn y Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol, Llanfyllin. Croeso i chi alw heibio neu aros am y diwrnod!
Ffilmiau Byrion - Beth yw'r Pwynt? @ Theatr Llwyn
TBC
Trafodaeth gan banel o'r diwydiant ffilm ar ddyfodol a diben cynhyrchu ffilmiau byrion. Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb mawr i bawb sydd â diddordeb mewn ffilmiau byrion, naill ai fel cynhyrchydd ffilmiau neu fel rhywun sy'n gwylio ffilmiau. Felly dewch â'ch cwestiynau ar gyfer y panel!
Ymysg y gwesteion ar y panel fydd ein cyfarwyddwyr preswyl Eli Jacobs-Fantauzzi a Greg Hall, cynrychiolydd Asiantaeth Ffilm Cymru Eve White, Arweinyddion cyrsiau mewn ffilm a theledu o Brifysgolion Glynd?r ac Aberystwyth, yn ogystal â digwyddiadau sgrinio gan BAFTA CYMRU.
Parti Cloi yn yr Hen Dafarn Newydd
9.00yh
Cyfle i ddadweindio, ymlacio, sgwrsio, cael eich ysbrydoli a chymysgu gyda gwesteion yr Wyl ym Mharti Cloi Ffilmic.
Am ddim gyda thocyn llawn neu dâl mynediad o £4


