Ffilmic 2007

Rhoddir isod restr o bobl sydd wedi cefnogi a chynorthwyo gyda threfnu’r wyl:

  • Ruth Carter - Ymgynghorydd Ffilm Gwirfoddol (sydd wedi rhoi oriau o’i hamser!)
  • the Valleys Film Society
  • Lake Vyrnwy Hotel for sponsoring the Take 1 Five Day Film Challenge
  • The Cain Valley Hotel
  • I Siop SPAR Llanfyllin am noddi'r Lansi
  • Dan Thomas - Asiantaeth Ffilm Cymru

Gweithdai 2007

Young people took part in stop frame animation workshops last year, below is a selection of short films they made.

Canllaw Online Cyf is a not for profit organisation and a registered charity established to develop and support information services for young people, offering a number of bilingual services linked to information distribution through a series of unique initiatives, to both young people and information providers for young people.

These shorts were made by the young people who took part in the Being Young and... workshops with Chris Morgan. There are also some stop-trick shorts made at the open workshops held over the Ffilmic Festival Weekend.

For more information and shorts made by other young people visit: www.credu.co.uk or www.canllaw-online.com

Speakers 2007

Yma, cewch fwy o wybodaeth a phroffiliau gan y gweithwyr proffesiynol sy’n rhoi’r cyflwyniadau a sesiynau holi ac ateb:

Jacqui Bellamy - Sound for Film

Cyflwyniad gyda sesiwn cwestiwn ac ateb - Dydd Sadwrn 27 Hydref - 1 awr - 12.00yp

Mae Jacqui Bellamy wedi gweithio yn y diwydiant ffilm yn recordio sain ac fel genweiriwr ar ei liwt ei hunan ers 1994. Mae hi hefyd yn ffotograffydd ar ei liwt ei hunan, ac yn uno cymysgedd o sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant gwneud ffilmiau.

Mae ganddi gefndir o weithio gyda phobl ifanc ac oedolion, yn amrywio o waith cymdeithasol gyda throseddwyr ifanc i waith cymunedol gyda phobl ifanc ac oedolion. Mae hi hefyd yn dysgu Cynhyrchu Ffilmiau gyda chwmni ‘Sheffield Independent Film and Television’ (SHIFT) ac yn dysgu ym Mhrifysgol Sheffield Hallam.

Mark Gwynne Jones - Live Performance

Cyflwyniad gyda sesiwn cwestiwn ac ateb - Dydd Sadwrn 27 Hydref - 1 awr - 1.15yp

Trwy gyfuniad o berfformiadau byw a sgrinio ffilmiau, bydd y bardd a‘r sgriptiwr, Mark Gwynne Jones, yn ein tywys ar daith i’w fyd ‘swrealaidd a syfrdanol’

Mae’n rhoi syniad ynghylch ei berthynas weithio gydag Andy Lawrence, sy’n creu ffilmiau. Mae hyn wedi arwain at gynhyrchu nifer o ffilmiau byr llwyddiannus sy’n cyfuno barddoniaeth, drama a ffilm wrth ystyried yr isymwybod.

Ymysg y ffilmiau bydd:

‘Possession’ (hyd - 6.55) Ffilm gerdd sy’n edrych ar symbolaeth breuddwydion a’r broses o chwilio am hunaniaeth gyffredinol.

‘The Message’ (hyd - 12 mun) Hanes bachgen sy’n methu siarad am ei freuddwydion, postmon sy’n cael cip ar fyd arall, a hen ddyn sy’n ofni mai gwastraff oedd ei fywyd.

Bardd, perfformiwr a sgriptiwr yw Mark Gwynne Jones..

Am y deng mlynedd diwethaf, mae Mark Gwynne Jones wedi bod yn herio ffiniau barddoniaeth trwy weithio ar y cyd gyda Psychicbread a’r cynhyrchydd ffilmiau, Andy Lawrence.

Darlledwyd ei waith ar ITV, Sky a Manchester TV, a dangoswyd ei waith hefyd mewn sinemâu yn Llundain, ac yn Cornerhouse, Manchester.

Mae wedi perfformio yn yr ‘Edinburgh Fringe’, wedi bod ar daith gyda Kate Rusby ac wedi perfformio gyda’r Levellers, Half Man Half Biscuit, John Cooper Clarke ac mae wedi ennill Buxton Festival Fringe.

'Mark Gwynne Jones is to poetry what The League of Gentlemen is to television. He should be ruined with fame and money before he shows the rest of us up for the bunch of sissies we are. But if you don’t want the truth, don’t call a poet, at least not a real one.' - Martin Newell of The Independent

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan @ www.pyschicbread.org

Lee Kern - Film Maker

Cyflwyniad gyda sesiwn cwestiwn ac ateb - Dydd Sadwrn 27 Hydref - 1 awr - 2.30yp

Bydd Lee yn rhoi cyflwyniad byr ar sut y cychwynnodd yn y byd gwneud ffilmiau. Bydd yn dangos detholiad o ffilmiau byrion ac yn trafod sut y cafodd ei gomisiynu i wneud prif ffilm.

Mae Lee yn meddu ar ddoniau amrywiol. Ei brif ddoniau yw sgriptio, comedi, darlunio a gwneud ffilmiau. Isafbwynt gyrfa Lee oedd gweithio gydag Angus Deayton am ddau ddiwrnod yn ysgrifennu jôcs. Prosiect diweddaraf Lee oedd y ffilm "Monkey Tennis" cafodd ei dangos yng Ngwyl Deledu Caeredin, a ddisgrifiwyd gan bapur yr Independent fel un o uchafbwyntiau’r wyl. Bu Lee yn gwneud gwaith cudd gyda chwmni cynhyrchu ffug, ac awgrymodd syniadau mor amrywiol â "Rolf Harris yn Tynnu Lluniau o’r Newyddion" a "Meddyg y 18fed Ganrif" i gomisiynwyr teledu. Lee yw un o leisiau’r cartwn ‘Modern Toss’ ynghyd â Mackenzie Crooke, Paul Kaye a Doon Machicon. Mae ei ddull hynod o wneud ffilmiau a’i esthetig ‘lo-fi’ ar y cyfan yn anghytuno â thirlun teledu, sydd yn ei farn ef yn cael ei reoli gan arddulliau a delweddau unffurf wedi’u fformatio, eu brandio, a’u homogeneiddio. Ac yntau’n hurtyn i’r frwydr, mae’n parhau i feddwl y gall newid hyn oll ar ei ben ei hunan. O ganlyniad, mae Lee yn dlawd iawn.

Ymysg ei ffilmiau eraill: The Edgware Walker; The House of Memory; Tales of the Creepy Crooked; The A-Z of Love; Meet the Psychics; October Mumbling a Rue Portobello.

ADOLYGIADAU

"...arddull hynod naturiol a rhwydd, nid yw’n perthyn iddo fo’n unig...nid rhaglenni dogfen yn yr ystyr arferol, mAent yn rhywbeth unigryw....egnďol, a chwareus ac mae iddynt galon..." "...ffilm wych – doniol a thrist – gan un o gynhyrchwyr ffilmiau mwyaf cyffrous y byd sydd ohoni..." - Robert Popper (cynhyrchydd rhaglen Sianel 4 - Peep Show) "...un o uchafbwyntiau Gwyl Deledu Caeredin...sgriptiwr a chynhyrchydd rhaglenni doniol iawn..." - Conor Dignam (The Independent)

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan @ www.twinklebum.co.uk

Anthea Kennedy & Ian Wiblin

Q&A - Nos Sadwrn 27 Hydref - 1 awr - 8.00yh

Cyfle i siarad gyda chyfarwyddwyr Stella Polare.

Greg Hall

Dydd Sul 28 Hydref - 1 awr - 5.00yp

A one hour Master Class presented by young acclaimed British writer and director Greg Hall, who will be presenting an eclectic selection of work. Since 2004 Greg’s directorial debut “THE PLAGUE” (2004) has picked up acclaim and awards, and in 2007 his second feature film “KAPITAL” (2007), a co-commission with composer Steve Martland, was premiered at the Manchester International Festival. As an example of guerrilla film making Greg will show and talk about his feature films, music videos (with The Beta Brothers) and short films, and discuss his approach and thoughts on cinema and the social relevance of modern culture..

Ffilmiau 2007

Mae’r ffilmiau’n cael eu sgrinio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Ffilm y Dyffrynnoedd, sy’n rhedeg rhaglen o ffilmiau o fis Medi hyd fis Mawrth.

The Host (Gwoemul) (15)

Nos Wener, 26ain Hydref, 7.30yh

Cyfarwyddwr : Bong Joon -ho - Actorion : Song Kang-ho, Byeon Hee-bong - Isdeitlau - - 2006 - 1awr 59 mun - Coreaidd

Seoul 2006. Mae Hee-bong yn byw ac yn gweithio ar lannau Afon Han. Pan fydd ei hwyres, Huyn-seo yn cael ei chipio gan anghenfil sy’n codi o’r Afon Han, mae’r teulu cyfan yn chwilio amdani.

Mae’r ffilm hon eisoes wedi cael ei henwebu ac wedi ennill nifer o wobrwyon yng Ngwyl Ffilm Ryngwladol Catalonia, Gwyl Ffilm Asia-Pasiffig a nifer o rai eraill.

Tales from Earthsea(Gedi Senki) (PG)

Dydd Sadwrn 27ain Hydref, 10.15yb

Cyfarwyddwr : Goro Miyazaki - Actorion: (Lleisio): Timothy Dalton, William Dafoe - Japaneaidd - 2007 - 1awr 55 mun - Trosleisiwyd

Addasiad o nofel Ursula K. Le Guin 'A Wizard of Earthsea'. Mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd yn Earthsea a does neb yn gwybod beth sy’n ei achosi. Mae Ged, dewin crwydrol, sy’n cwrdd â’r Tywysog Arren, yn mynd ati i chwilio am y gwirionedd tu ôl i’r hyn sy’n digwydd.

Woodstock... Can't Get There from Here

Dydd Sadwrn 27ain Hydref, 3.45yp

Cyfarwyddwyr : David McDonald - American

Mae ‘Woodstock...Can't Get There From Here’ yn delio gyda’r digwyddiadau hanesyddol ddigwyddodd yn nhref Woodstock, Efrog Newydd, ac yn eu troi yn drosiad epig ynghylch esgyniad a chwymp yr adain chwith yn America. Neu, gellir dadlau, esgyniad a chwymp America ei hunan.

Stella Polare (uncertified)

Nos Sadwrn 27ain Hydref, 6.30yh

Cyfarwyddwyr: Anthea Kennedy & Ian Wiblin - DU - 2006 - 1awr 16 mun

Stori hanesion tameidiog yw Stella Polare: o drychinebau ymerodraeth, rhyfel, braw a gwrthwynebiad i’n cyfnod. Mae’r adroddwr cudd yn 'dod ar draws' trigolion porthladd dienw yn Ewrop ers talwm wrth grwydro ar hyd glanfa wrth iddi nosi. Mae’n cwrdd â therfysgwyr, athronwyr, llenorion, ffotograffwyr, siopwyr ac mae eu hanesion goddrychol a dyfalu yn creu rhwyg o fewn hanes yr 20fed ganrif a thu hwnt i hynny. Mae’r hanesion hyn yn strwythur canolog gyda llinynnau o ddelwedd, sain a lleisiau yn cael eu gweu i greu stori amwys a dyfaliadol. Mewn mannau eraill, mae’r camera yn archwilio fflatiau wedi’u dodrefnu mewn dull moethus o’r 19eg ganrif gyda chypyrddau gwydr o amgueddfeydd gydag adar wedi’u stwffio, lle gwelir olion gorffennol imperialaidd bendigedig yn cwrdd â materoliaeth y presennol. Ffilm draethawd yw Stella Polare, sy’n nodweddiadol o’r gwahaniaeth rhwng gwneud ffilmiau storďol, dogfen ac ‘arbrofol’. Mae’n ddarn o waith sy’n berthnasol i’r byd cyfoes, a thrwy ymgysylltu â hanes, yn myfyrio ar amser, y cof a gweithredu gwleidyddol treisgar.

Mae Stella Polare wedi cael ei dangos, gyda chlod mawr, mewn nifer o Wyliau Ffilm ym Mhrydain, gan gynnwys Gwyl Ffilm Ryngwladol Leeds.

The Plague (18)

Nos Sul 28ain Hydref, 6.30yh

Sgriptiwr a Chyfarwyddwr: Greg Hall - DU - 2006 - 1awr 44mun

Welcome to the 21st century. A story of England told from inner City London. Set amongst a landscape of police wagons and estate blocks. Trapped in a world where hate breeds hate. A story seen through the eyes of four young multi-cultural friends. One city. One weekend.

At the age of twenty-two Greg Hall shot his ultra low budget feature debut “THE PLAGUE” (2004), which landed critical acclaim on an international scale, screening globally and notching up three awards. Chosen by British director Mike Leigh to receive the inaugural Katrin Cartlidge Foundation Scholarship (10th Sarajevo Film Festival) who described it as “very exciting 21st Century cinema”; it also received the Best Director Award (Portobello Film Festival 2004) and the Audience Award for Best Feature (Raindance East Film Festival 2005). “THE PLAGUE” was released theatrically in 2006 and commercially in 2007 in the UK epitomises the shift in low budget digital cinema: “Gritty, realistic, sometimes electrifying, often inventive, always gripping, an essential piece of viewing. One of the most explosive pieces of independent British cinema ever.” Rogue Cinema (David Stephenson)

www.prodigalproductionsltd.com - www.theplaguefilm.co.uk - www.kapitalfilm.com - www.myspace.com/thebetabrothers - www.myspace.com/brokebutmakingfilms

Dydd Sadwen 27 Hydref - 10.00yb

Cyfarwyddwr : Tony Rooke - Sgriptiwr, Cynhyrchydd, Golygydd: Steve Roper - Awstralaidd(Tasmania) - 2002 - 15 mins - Muse Productions

Ym 1953 yng Ngogledd Ddwyrain Tasmania, mae pump o blant yn cael tipyn o sioc ar ôl penderfynu dilyn olion ‘Tassie Tiger’ anifail sydd efallai’n ddiflanedig.

Ffilm antur i blant o bob oed, gyda chefndir tirwedd estron Tasmania.

Selling the Moon

Dydd Sul 28 Hydref, 12.00yh

Cyfarwyddwr: Tony Wainwright - Sgriptwyr: Tony Wainwright & John Davies - DU - 2006 - Three Cats In The Yard

Ffilmiwyd y ffilm hon am fôr-ladron ar dir sych yn ardal Llanfyllin gyda chast a chriw fideo o wirfoddolwyr amatur lleol. Er na wariwyd unrhyw beth ar ei gynhyrchu, mae’n ffilm ddiddorol iawn ynghylch dau griw o fôr-ladron a swyddogion anfad y tollau. Comedi yn steil pantomeim, fydd yn apelio at gynulleidfa tu hwnt i’r gymuned leol lle cafodd ei ffilmio.

Something India

Dydd Sul 28 Hydref, 1.00yh

Small Birds Singing

Dydd Sul 28 Hydref

Animeiddiwr Linda McCarthy - DU - 2007

Dydd Llun yw bob dydd yng nghartref y teulu ‘Unbelievable’ yng nghefn gwlad. Eliffantod bach, afalau sy’n dadlau, a chorff yn y gwrych…. diwrnod cyffredin arall yn ‘Small Birds Singing’.

Bu Linda McCarthy yn astudio cerameg yng Ngholeg Harrogate, yng Ngogledd Swydd Efrog, ac yna treuliodd dwy flynedd fel Artist Preswyl ym Mhrifysgol Salford. Ar ôl cymryd seibiant yn ei gyrfa i gael pedwar o blant, bu Linda’n astudio Animeiddio yn NEWI yng Ngogledd Cymru, gan arbenigo ym maes ‘stop-motion’ a graddiodd ym mis Mehefin 2007. Mae hi newydd sefydlu cwmni ‘Tiny Elephants Ltd’, cwmni cynhyrchu animeiddiadau.

Fags!

Dydd Sul 28 Hydref

Animeiddiwr: Guy Levy - Ysgrifennwyd a pherfformiwyd y caneuon gan Hattie Hatstar - DU - 2006

Ymdrech un fenyw i roi’r gorau i’r chwynnyn drwg.... yn aflwyddiannus!

Chocks Away

Dydd Sul 28 Hydref

Animeiddiwr: Guy Levy - DU -

Woodstock... Can't Get There From Here - The Culture Wars

Sunday 28 October

Sgriptiwr a Chyfarwyddwr: David McDonald - 28 mins - America - 2006 - A High Fiber Films Production

Rhybudd i Rieni: gall rhywfaint o’r iaith fod yn anaddas i blant ifanc.

Diwrnod coffa yw hi yn Woodstock, tref fach enwoca’r byd, ac mae emosiynau bron â berwi drosodd.

Yng nghanol y gwrthdaro? Jay Wenk a’r grwp ‘Veterans For Peace’, sy’n mynnu gorymdeithio fel rhan o orymdaith y diwrnod coffa yn groes i ddymuniad trefnwyr yr orymdaith.

Ai arwydd o wladgarwch ynteu annheyrngarwch yw datgan anghytundeb mewn digwyddiad cyhoeddus i anrhydeddu’r meirw? Beth yn union mae’n golygu i fod yn Americanaidd yn America yn dilyn 9/11?

Mae’r ddwy ochr yn mynegi eu barn mewn ffordd eiddgar a diddorol yn y ffilm ffęr ddeinamig hon gan y sgriptiwr / cyfarwyddwr David McDonald, sy’n enwog am ei waith arloesol, Woodstock... Can't Get There From Here.

For more information about David McDonald visit: http://myspace.com/davidthedirector - www.youtube.com/davidthedirector

Shantell Town

Dydd Sul 28 Hydref

Sgriptiwr, Cynhyrchydd, Chyfarwyddwr: Paulette James Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: Jonathon Harvey Actorion: Nicole Smith, Tara Brown, Mellicia Le Host - 10mins - DU - 2006

Stori gyda chefndir ymysg pobl dduon yn Brixton, gyda rhywfaint o ‘Blaxploitation’ o gyfnod y 70au. Mae’n rhaid i Shantell ffeindio ei thraed ar y stryd, yn y frwydr i weld pwy yw’r 'Super Bad'.

Enillodd y ffilm fer hon wobrwyon am y Cyfarwyddwr Gorau a’r Actores Orau yng Ngwyl Ffilm Ryngwladol BFM, Llundain 2007

Gwefan: www.shantelltown.co.uk